Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
23 Hydref 2019
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.
(20 munud)
[Gofyn i’r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit]
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yng ngoleuni Tŷ'r Cyffredin neithiwr yn cymeradwyo bargen Brexit am y tro cyntaf ers y refferendwm, ar ffurf Bil Cytundeb Ymadael y Prif Weinidog, a wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad i'r Cynulliad?
[Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth]
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): Pa drafodaethau fydd Llywodraeth Cymru yn eu cynnal gyda’r awdurdodau perthnasol yng ngoleuni’r newyddion trasig bod cyrff 39 o bobl wedi’u darganfod mewn cynhwysydd lori yn Essex ar ôl iddynt ddod i mewn i’r DU trwy Gaergybi?
(5 munud)
(60 munud)
NDM7144 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu adroddiad o gynnydd am ei gwaith i fynd i'r afael â throseddau casineb LHDT yng Nghymru.
2. Yn galw am ddatganoli cyfiawnder er mwyn sicrhau dull integredig o fynd i'r afael â throseddau casineb LHDT ac amddiffyn pobl LHDT yng Nghymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu ei chynigion ar sut y gallai creu system gyfiawnder ddatganoledig i Gymru hybu diogelwch a llesiant pobl LHDT.
Cyd-gyflwynwyr
Leanne Wood (Rhondda)
Mick Antoniw (Pontypridd)
(60 munud)
NDM7166 Lynne Neagle (Torfaen)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg – Cyllido Ysgolion yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Gorffennaf 2019.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 16 Hydref 2019.
(60 munud)
NDM7167 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod nad yw polisïau cyfredol i fynd i'r afael â digartrefedd a chysgu ar y stryd yn cyflawni'r hyn sy'n ofynnol.
2. Yn cymeradwyo'r arferion da sydd i'w gweld yn y sector ac yn croesawu sefydlu Grŵp Gweithredu Digartrefedd Llywodraeth Cymru.
3. Yn nodi:
a) bod 25 o farwolaethau wedi'u nodi ymhlith pobl ddigartref yng Nghymru yn 2018, sy'n gynnydd nodedig o'r 11 o farwolaethau a nodwyd yn 2017;
b) bod 25,937 o bobl wedi profi digartrefedd ledled Cymru yn 2017/18, yn ôl ffigurau gan Shelter Cymru;
c) bod nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd wedi cynyddu 75 y cant rhwng 2012 a 2017, a bod y nifer sy'n cysgu mewn ceir, pebyll ac ar gludiant cyhoeddus wedi cynyddu 50 y cant yn ôl ymchwil gan Crisis a Phrifysgol Heriot-Watt;
4. Yn nodi ymhellach gynllun gweithredu 10 pwynt y Ceidwadwyr Cymreig i fynd i'r afael â digartrefedd: 'Mwy na Lloches yn Unig'.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i benodi tsar digartrefedd, yn ddelfrydol rhywun sydd â phrofiad o fyw yn ddigartref ac sy'n gallu craffu ar gynnydd tuag at roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru.
Y Ceidwadwyr Cymreig – Mwy na Lloches yn Unig
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn cydnabod bod yna fwy y gellir ei wneud bob amser i fynd i'r afael â digartrefedd.
2. Yn cymeradwyo'r arfer da a welir yn y sector tai mewn perthynas â digartrefedd, gan gynnwys y trefniadau partneriaeth sy'n cefnogi gwaith Tai yn Gyntaf Llywodraeth Cymru.
3. Yn croesawu sefydlu Grŵp Gweithredu Llywodraeth Cymru ar Ddigartrefedd a ddatblygwyd mewn partneriaeth â'r sector, gan gynnwys elusennau digartrefedd, ac yn croesawu ei adroddiad cyntaf.
4. Yn nodi:
a) Bod un person digartref sy'n marw yn drasiedi.
b) Yr effaith y mae cyni a diwygiadau i'r system les wedi'i chael ar y niferoedd sy'n ddigartref.
5. Yn nodi ymhellach Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Atal a Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd ac ymgyrch adduned y sector cyhoeddus.
Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd: Adroddiad Hydref 2019
Strategaeth ar gyfer Atal a Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 - 7 eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn credu bod methiant holl Lywodraethau Cymru dros yr 20 mlynedd diwethaf i ddatrys digartrefedd yng Nghymru yn warth cenedlaethol.
Gwelliant 3 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)
Dileu pwynt 2.
Gwelliant 4 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn credu bod dyblygu gwasanaethau, cyflogau uchel uwch reolwyr yn y trydydd sector, ynghyd â thoriadau i lywodraeth leol yng Nghymru yn gwneud sefyllfa lle mae digartrefedd eisoes yn wael yn waeth.
Gwelliant 5 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
'Mae'r tueddiadau hyn wedi'u nodi yn Lloegr, lle mae hefyd gynnydd wedi bod yn nifer y marwolaethau ymysg y rhai sy'n cysgu ar y stryd. '
Gwelliant 6 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu pwyntiau 4 a 5.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliant 7.
Gwelliant 8 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod toriadau Llywodraeth y DU i nawdd cymdeithasol wedi cyfrannu at y cynnydd mewn digartrefedd, fel y rhagwelodd y sector fyddai'n digwydd.
Gwelliant 9 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu na chafodd angen blaenoriaethol ei ddileu'n raddol er mwyn gwneud lle i ddyletswydd gyffredinol i sicrhau llety diogel yn ystod Deddf Tai (Cymru) 2014, ac yn credu bod hwn yn gyfle a gollwyd.
Gwelliant 10 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth y DU i fabwysiadu argymhellion yr adroddiad Crisis ar roi terfyn ar ddigartrefedd sy'n berthnasol i feysydd polisi sydd heb eu datganoli, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu argymhellion yr adroddiad argyfwng sy'n berthnasol i'w feysydd cyfrifoldeb.
Crisis - Everybody In - How to End Homelessness in Great Britain 2018 (Saesneg yn unig)
Gwelliant 11 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Sicrhau bod Deddf Crwydradaeth 1824 yn cael ei datgymhwyso'n weithredol ym mhob un o ardaloedd yr heddlu yng Nghymru er mwyn osgoi gwneud pobl ddigartref yn droseddwyr am gysgu allan a chardota.
Gwelliant 12 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn ogystal â darparu tai, yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n briodol i bobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, fel pobl â phroblemau iechyd meddwl, anableddau dysgu, defnyddwyr sylweddau problematig, pobl ag ADHD ac anhwylderau niwroddatblygiadol, carcharorion, cyn-filwyr, goroeswyr cam-drin rhywiol yn ystod plentyndod a goroeswyr cam-drin domestig a'r rhai sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
Gwelliant 13 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatgan argyfwng digartrefedd ac i gyflwyno polisïau tai yn gyntaf i dynnu pobl oddi ar y strydoedd.
Gwelliant 14 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu anghenion lleol wrth ymdrin â digartrefedd.
Gwelliant 15 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn adolygiad bon a brig o'r holl arian cyhoeddus a gaiff ei wario yn y sector tai er mwyn mynd i'r afael â digartrefedd.
(30 munud)
NDM7165 Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)
Grym tai cydweithredol fel modd o helpu i ddiwallu anghenion tai mewn cymunedau ledled Cymru.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 5 Tachwedd 2019